Croeso i dudalen Pwyllgor Ysgol Iach! Ein dyletswydd ni yw i annog ein cyd-ddisgyblion i fwyta’n iach ac i gadw’n heini. Mae yna ffyrdd allwch chi helpu eich plant hefyd. Yn ystod amser cinio, mae aelodau’n pwyllgor yn dosbarthu ‘tocynnau iach’ ar gyfer bocsys bwyd iachus ac rydym yn cyflwyno tystysgrif yn wythnosol i’r flwyddyn iachaf. Gallwch chi ein helpu trwy ddarparu bocsys bwyd iach i’ch plentyn. Ceisiwch gynnwys bwydydd lliwgar fel tomato, pupurau a ffrwythau yn y pecynnau bwyd.