Rwy’n gallu gweld y manteision ond dwi ddim yn gallu siarad Cymraeg. Rwy’n bryderus na fyddaf yn gwybod beth sy’n digwydd mewn awyrgylch Cymraeg ei iaith.
Nid yw mwyafrif llethol y rhieni sy’n anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gallu siarad Cymraeg eu hunain. Dyma pam fod ysgolion cyfrwng Cymraeg wastad yn cyfathrebu â rhieni yn y Gymraeg a’r Saensneg. Cymraeg yw amgylchedd yr ystafell (ac eithrio gwersi Saesneg, wrth reswm). Ond pan fo rhieni, gofalwyr, perthnasau a chyfeillion yn ymweld â’r ysgol, dwy ieithrwydd yw’r arfer. Golyga hyn y bydd athrawon a disgyblion yn siarad Cymraeg neu Saesneg gan ddibynnu pwy sy’n rhan o’r sgwrs.
Lawrlwythwch mwy o wybodaeth yma.