Prif nod ein clwb chwaraeon yw darparu amrywiaeth o brofiadau ym myd chwaraeon i ddisgyblion yr adran iau. Hyrwyddwn fanteision iechyd a chymdeithasol o gwblhau gweithgareddau corfforol drwy ddarparu amrywiaeth o weithgareddau mewn awyrgylch hwylus a diogel. Edrychwn ymlaen i dderbyn eich cwmni yn y dyfodol!
Mae’r clwb yn cyfarfod pob Dydd Iau am 3:30 y.p. tan 4:30 y.p. yn wythnosol yn y neuadd chwaraeon. Croeso i bawb o’r adran iau!
Dyma aelodau o’r clwb chwaraeon yn cystadlu’n frwdfrydig yng nghystadleuaeth traws gwlad yr Urdd:
Carfan rygbi cyntaf yr ysgol eleni. Pob lwc am y flwyddyn! Cadwch lygaid ar dudalen Trydar yr ysgol er mwyn derbyn canlyniadau.